Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5
Dyddiad: Dydd Iau, 7 Rhagfyr 2023
Amser:
12.30 -
15.20
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13581
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Jayne Bryant AS Adam Price AS (yn lle Luke Fletcher AS) Sam Rowlands AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Michael Kay, Llywodraeth Cymru Angharad Thomas-Richards, Llywodraeth Cymru Laura Mitchell, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Catherine Hunt (Clerc) Angharad Era (Dirprwy Glerc) Rachael Davies (Ail Glerc) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Philip Lewis (Ymchwilydd) |
1 Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) - trafod y prif faterion
1.1 Trafododd y Pwyllgor y prif faterion.
2 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Luke Fletcher AS. Dirprwyodd Adam Price AS ar ei ran.
2.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Joel James AS.
3 Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) - Tystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Michael Kay – Uwch-swyddog Cyfrifol i’r Bil – Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Etholiadau, Llywodraeth Cymru
Laura Mitchell – Cyfreithiwr y Llywodraeth, Gwasanaethau Cyfreithiol, Llywodraeth Cymru
Angharad Thomas-Richards – Cynghorydd Rhaglen Diwygio Etholiadol, Adran Etholiadau, Llywodraeth Cymru
3.2 Cytunodd y Cwnsler Cyffredinol i gadarnhau pa ddeddfwriaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru osod ei adroddiad blynyddol.
4 Papurau i'w nodi
4.1 Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol - Amrywiaeth mewn llywodraeth leol
4.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - P-06-1334 Gwneud y Senedd yn Fwy Cynrychiadol o Boblogaeth Cymru
4.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.3 Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd - Bil Rhentwyr (Diwygio)
4.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.4 Llythyr gan Llamau i'r Pwyllgor Cyllid - Cyllideb Ddrafft 2024-25
4.4a Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.5 Llythyr gan Gorwel - Cyllideb Ddrafft 2024-25
4.5a Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.6 Canfyddiadau’r arolwg - Y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)
4.6a Nododd y Pwyllgor ganfyddiadau’r arolwg.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer gweddill y cyfarfod
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6 Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) - trafod y prif faterion
6.1 Trafododd y Pwyllgor y prif faterion.